Psalms 30

Gweddi o ddiolch

Salm Dafydd. Cân ar gyfer cysegru'r deml.

1Dw i'n dy ganmol di, O Arglwydd,
am i ti fy nghodi ar fy nhraed;
wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu.
2O Arglwydd, fy Nuw,
gwaeddais arnat ti
a dyma ti'n fy iacháu i.
3O Arglwydd, codaist fi allan o fyd y meirw;
a'm cadw rhag disgyn i'r bedd.
4Canwch i'r Arglwydd, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,
a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
5Dim ond am foment mae e'n ddig.
Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd.
Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos;
ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen.
6Roedd popeth yn mynd yn dda
a minnau'n meddwl, “All dim byd fynd o'i le.”
7Pan oeddet ti'n dangos dy ffafr, Arglwydd,
roeddwn i'n gadarn fel y graig.
Ond dyma ti'n troi dy gefn arna i,
ac roedd arna i ofn am fy mywyd.
8Dyma fi'n galw arnat ti, Arglwydd,
ac yn pledio arnat ti fy Meistr:
9“Beth ydy'r pwynt os gwna i farw,
a disgyn i'r bedd?
Fydd fy llwch i'n gallu dy foli di?
Fydd e'n gallu sôn am dy ffyddlondeb?
10Gwranda arna i, Arglwydd,
dangos drugaredd ata i.
O Arglwydd, helpa fi!”
11Yna dyma ti'n troi fy nhristwch yn ddawns;
tynnu'r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu!
12Felly dw i'n mynd i ganu i ti gyda'm holl galon –
wna i ddim tewi!
O Arglwydd fy Nuw,
bydda i'n dy foli di bob amser.
Copyright information for CYM